![]() |
|
||||
|
|
|||||
|
Rydym yn defnyddio pob math o adnoddau pan yn gwneud ein gwaith, wedi eu casglu o bob math o lefydd.
Yr adnodd mwyaf pwysig sydd gennym yw'r Beibl.
Ynghyd a'r Beibl Cymraeg Newydd rydym yn defnyddio llawer i wahanol lyfr sydd yn cynnwys storiau'r Beibl ar gyfer plant. Un lle da i fynd am adnoddau i gynorthwyo gyda gwaith yr Ysgol Sul yw'r "Cyngor Ysgolion Sul".
Mae syniadau ar gyfer gwaith yn dod allan o bob math o lyfrau. Rydym yn edrych yn rheoliadd mewn siopiau llyfrau lleol i weld beth sydd yn newydd, ac hefyd yn edrych ar y We ar wefannau crefyddol (megis
Mae hefyd yn ddiddorol edrych ar wefannau enwadau a chapeli eraill.
Rydym wedi casglu lluniau wedi eu torri allan o gylchgronnau, lluniau mae aelodau wedi eu tynnu gyda camera, lluniau mae'r plant wedi arlunio, "clip art" sydd yn dod gyda meddalwedd sydd ar ein cyfrifiaduron, "clip art" o wefannau sydd yn gadael i chi ddefnyddio'u gwaith am ddim (megis http://www.awesomeclipartforeducators.com) ac yn y blaen, er mwyn darlunio ein gwaith.
|
||||
|
Ysgol Sul Penyparc : Ein Ysgol Sul Ni : Adnoddau
© Ysgol Sul Penyparc
Gwefan gan Gwyneth / Website by Gwyneth
|
|||||