![]() |
|
||||
|
|
|||||
|
Rydym yn codi arian er mwyn cael nwyddau ar gyfer gwaith yr Ysgol Sul, nwyddau ac anrhegion amser y Nadolig, gwibdaith yn yr haf, ac yn y blaen.
Rydym hefyd yn codi arian ar gyfer rhai elisennau.
Gwerthi CardiauPob hyn a hyn mae cardiau o waith llaw ar gael ar werth gan yr athrawes yn ystod amser yr Ysgol Sul a'r oedfa. Mae canran o'r arian a ddaw i fewn yn mynd at waith yr Ysgol Sul.
Gallwch weld enghreifftiau o'r math o gardiau sydd ar gael drwy glicio yma.
CasgliadRydym yn gwneud casgliad ym mhob Ysgol Sul pryd mae pob aelod yn rhoi ychydig at waith yr Ysgol Sul fel y gallent.
Cynllun "Associate" AmazonMae cynllun gan yr wefan "Amazon" ble maen't yn rhoi arian i bobl/grwpiau sydd yn rhedeg gwefannau, os ydynt yn rhoi cysylltiadau ar eu gwefannau i nwyddau ar wefan
Potel Casgli Newid ManMae potel i'w gweld nghyntedd y capel, neu yn y festri, er mwyn i un rhywun sydd am roi i fewn ychydig o'u newid man, sef ceiniogau, dwy geiniogau, pum ceiniogau, ac yn y blaen. Mae casglu arian man fel yma yn rhoi siawns i hyd yn oed yr ifancaf fod yn rhan o’r casgliad drwy roi ceiniog neu ddau i fewn. Mae'r arian a gesglid yn y ffordd yma yn cael ei ddanfon i ffwrdd at Mudiad Cenhadu y Bedyddwyr (BMS).
Yn dilyn y drychuneb a ddigwyddodd ar y 26ain Rhagfyr, 2004, pan drawodd ton fawr y tsunami nifer o wledydd gan achosi marwolaethau a dinistr ofnadwy, fe benderfynwyd agor y fotel yn y cyntedd yn syth. Er fod ddim arian mawn yn y fotel teimlwyd fod pob ceiniog yn cyfrif ac fe ddanfonwyd siec i ffwrdd i'r BMS, sydd a chysylltiadau a rhai o'r gwledydd a effeithiwyd.
Mae bron yn byd agor y botel unwaith eto felli chwiliwch allan eich newid man i rhoi i fewn ynddi.
|
||||
|
Ysgol Sul Penyparc : Ein Ysgol Sul Ni : Codi Arian
© Ysgol Sul Penyparc
Gwefan gan Gwyneth / Website by Gwyneth
|
|||||