|
Gwefan yr Ysgol Sul
http://www.ysgol-sul.penyparc.org.uk
Rydym yn chwilio am wahanol ffyrdd i arddangos y gwaith mae
dosbarth y plant yn gwneud bob blwyddyn. Penderfynwyd
creu gwefan er mwyn rhoi enghreifftiau o'r math o waith mae'r
plant wedi bod yn gwneud i fyny i bawb eu gweld. Fe fydd y gwaith
yma yn ymddangos ar y wefan maes o law o dan y pennawd "Gwaith yr Ysgol
Sul Eleni", ac fe fyddwn yn ychwanegu iddo fel yr ydym yn
mynd ymlaen.
Mae yn ddwy brif ran, sef "Ein Ysgol Sul Ni",
a fydd yn cynnwys pethau fel "Gwybodaeth i'w Nodi"
- megis y gair i gael gafael ynddo mewn adnod neu bennill, ac
yn y blaen. Hefyd rydym yn mynd i gasglu pethau o'r gorffennol
ynghyd o dan y teitl "Hanes". Mae'r pennawd yma yn
cynnwys "Cywaith Lluniau Hanesyddol" ble fyddwn yn
ychwanegu lluniau yn mynd nôl can mlynedd, rhai a gasglwyd
pan fu aelodau'r Capel a'r Ysgol Sul yn dod i fewn a lluniau
yn dangos digwyddiadau'r capel yn y gorffennol er mwyn gwneud
arddangosfa ychydig o flynyddoedd yn ôl. Fe fydd hefyd
hanes mwy diweddar fel yr ymddangosodd yn "Papur Ysgol Sul Penyparc".
|
Diogelwch
Gan fod gymaint o sôn wedi bod yn ystod y blynyddoedd
diweddar am "Ddiogelwch Plant", a'r ffaith fod rhai
pobl gydag amcan ddrwg yn chwilio'r we at eu dibenion eu hun,
mae peth ymchwil wedi cael ei wneud er mwyn gweld pa gamau gallwn
gymryd i gadw'r plant yn ddiogel wrth adael i'w gwaith a'u hymdrechion
perfformio gael eu harddangos.
Camau Diogelwch
- Gyda gwaith diweddar, ni fydd enwau plant yn ymddangos wrth ochr eu gwaith.
(Fe all fod enwau rhai a fu'n mynychu'r Ysgol Sul yn y gorffennol ymddangos gyda enghreifftiau o hen waith sydd yn ymddangos yn yr adran hanes.)
- Ni fydd enwau plant yr Ysgol Sul yn ymddangos wrth ochr eu
lluniau. (Eto, fe fydd enwau gyda lluniau o'r gorffennol yn yr adran hanes a tynnwyd o leiaf pum mlynedd yng nghynt.)
- Ni fydd lluniau yn cynnwys enwau'r plant.
- Ni fydd lluniau plant unigol yn ymddangos, heblaw eu bod
mewn masg neu fod rhywbeth arall yn newid eu golwg megys diriwio
safon y llun.
- Fe fydd lluniau o grwpiau yn cael eu gwneud ychydig yn aneglur
fel bod ddim plant unigol yn sefyll allan.
Y gobaith yw eu gwneud yn ddigon aneglur fel na all ddieithriaid
eu pigo allan pe byddent yn dod ar eu traws o amgylch y pentref,
ond bod y plant a pherthnasau clos yn medru eu hadnabod.
(Dywed ambell restr diogelwch y gallwch ddefnyddio dim ond enw
cyntaf plant, neu ffug enw - os oes unrhyw riant am i ni wneud
hyn fe all hyn gael ei drefnu. Os gwelwch unrhywbeth nad ydych yn hapus gyda fe yng nghynwys y wefan, rhowch wybod i ni ac fe gaiff ei dyni i lawr, neu os yn rhan o lun sydd yn cynnwys eraill fe all cael eu guddio.)
|